Mynd i'r afael â'r apiau y mae plant yn eu defnyddio
Er y gall apiau sy'n addas i blant wneud defnyddio'r rhyngrwyd yn brofiad mwy hygyrch a difyr, mae'r miloedd o apiau sydd ar gael ar gyfer gwahanol fathau o bobl yn golygu ei bod yn bwysig sicrhau bod plant yn defnyddio rhai priodol.
Mae'r canllaw hwn yn mapio rhai o'r apiau mwyaf cyffredin sydd ar gael ac yn tynnu sylw at y rhai a allai greu sefyllfaoedd peryglus i blant, megis datgelu gwybodaeth bersonol yn anfwriadol, perygl dieithriaid a chynhyrchu biliau mawr trwy brynu mewn-app.
Mae hefyd yn cynnwys cyngor ar apiau y gellir eu defnyddio i wella dysgu a lles plant i'w helpu i gael y profiad gorau allan o'r byd ar-lein.